P-04-371 Tocynnau Teithio Rhatach ar gyfer Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus sy’n Iau na 18 Oed
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno tocynnau teithio rhatach ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus sy’n iau na 18 oed.
Prif ddeisebydd: Simon Williams-Jones
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 13 Mawrth 2012
Nifer y deisebwyr: 26